GOLYGFA 7 |
|
Rhagddoedydd |
Tydi loywbryd arglwyddes, unferch Diana y'th farned, dy un mab dall asgellog, Syr Cipwid gwrandawed, chwithau'r Chwiorydd naw sy'n aros yn Helicon yn Mynydd Parnasus, clywch chwithau f'achwynion. Fe ddarfu i chwi hyd yma fy nghyfarwyddo cyn belled - onis cyfarwyddwch fi'r owran, yn bellach nis medraf fyned, i ddangos a ddigwyddodd i Troelus o'i wasanaeth, sydd bellach o hyn allan yn myned waethwaeth. Tithau Mars, rhyfelwr creulon a thad Quireinus, moes dy help i orffen o Cresyd a Troelus. Diomedes, ar hyn yn fyned wrth y Troeaid - at Priaf yn eistedd wrth ei senedd - ac yn doedyd fel hyn: |
Diomedes |
Anrhydeddus Briaf, mae'n dy annerch Agamemnon: mae'n deisyf amser i gladdu a meddyginiaethu ei ddynion. Mae hefyd yn fodlon am Antenor ei gyfnewid am unferch arglwydd Calchas, hon ydyw Cresyd. Os bodlon i'r heddwch yr owran dywedwch ac i'r gyfnewid - am Antenor rhoi Cresyd. |
Hector |
Diomedes, mae'n rhyfedd gennyf eich dymuniad, am Antenor rhoi Cresyd yn gyfnewidiad. Carcharwr yw Antenor - carcharwr a gewch amdano. Rhydd yw Cresyd - nid iawn mo'r gyfnewid honno. Camgymryd eich cynhaeaf - nid arfer Groeg sydd yma. Yn nhref Troea nis gwelwyd erioed werthu merched. |
Paris |
Peidiwch, Hector, na sefwch yn hyn yn ddibrys, i wrthod marchog gwrol, cynghorus yn gyfnewid am wirion forwyn ddiymadferth a ninnau ag eisiau gwŷr arnom yn ein trafferth. Priaf, ein brenin reiol, na fyddwch ansynhwyrol: ein meddwl ni a'n cyngor i chwi ddewis Antenor. |
Priaf |
Ni a glywson, Diomedes, ddeisyfiad Agamemnon; i gyflawni hyn o'i ewyllys yr ydym yn fodlon, a thrwy rym y Senedd hon a'i chyngor yn cyfnewidio â chwi Cresyd am Antenor. A phan ddygoch yma Antenor i Droea, chwithau gewch Cresyd: hyn yw ein addewid. |
Mae Troelus yn cyrraedd ar ddiwedd y cytundeb, Pandar yn ei dal yn ôl a sibrwd yn ei glust beth ddigwyddodd, gadawai pawb ond y ddau ohonynt: |
|
Troelus |
O ffortun anffortunus, beth yr owran a'th gyffrôdd? Beth a wneuthum yn dy erbyn, nac o'm bodd nac o'm anfodd? Pa fodd y gellid fy siomi rhag pechodrwydd? Oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd? Os clywi arnat hyn yma - ddwyn Cresyd oddi arna - anrhugarog a chreulon ydyw meddwl dy galon. Oni ddarfu im dy anrhydeddu hyd yn hyn o'm bywyd yn fwy na'r holl dduwiau eraill i gyd? Paham yr wyt yn ymgolledu o'm holl ddifyrrwch? O Troelus, pa fodd y'th elwir bellach ond tristwch? Pawb ath eilw di yn fydredd wedi colli dy anrhydedd; nes colli it dy fywyd, nis coll trymder trwm am Gresyd. O Ffortun, os wyt yn dwyn i mi genfigen o ran fy mod yn dwyn fy mynd yn llawen, dwyn einioes y brenin a'm tad a ellyd; dwyn einioes y mrodyr, am einioes innau hefyd. Sy'n trwblio yr owran y byd i gyd a'i gwynfan, am farwolaeth yn nychu, a marw yn iawn heb fedru. O Cresyd, pe buaswn i heb dy weled, Ffortun nis gallase imi mor niwed; trwy'r golwg hwn i cafodd arna fantais, yr owran fy nifeddiannu or fwy a gerais. Ai gorchafiaeth gennyd nychu gwan am i fywyd? Gad i ffordd hyn yma a gwna i mi dy eitha! Beth a wnaf ym prudd-der a caethiwed? Ai ymadael a Chresyd a brynais cyn ddruted? Onid ef, mi wnaf y peth allaf ei wneuthud - byw'n unig mewn prudd-der a chreulon benyd, achwyn fy hunan ar fy anffortunus ddigwyddiad, lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad. Fy niwedd a fydd amlwg fel Edipws, mewn tywyllwch, dwyn prydd-der yn fy mywyd a mawr o'r diwedd mewn adfyd. O'r trymion lygaid, erioed bu eich difyrrwch i edrych ar Cresyd, ei glendid a'i hawddgarwch. Beth a wnewch, bod yn anghysurus i minnau, ai sefyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau? Ewch ymaith, trymion lygaid, nid oes obaith i chwi amnaid, nid oes mo'r rhinwedd arnoch, eich rhinwedd a gollasoch. O Cresyd, Cresyd, o arglwyddes anrhydeddus, pwy im a rydd unwaith un gair cysurus? Neb nid oes pan ddarffo i'm calon dorri, yn lle'r corff, gad i'm ysbryd dy wasanaethu. I'm corff anrhugarog y buost, anrhugaredd mawr a wnaethost. O hyn allan, Cresyd, bydd drugarog i'm ysbryd. |
Pandar |
Oes o fewn y byd un dyn ar a aned a welodd i'w oes ryfeddod cyn ddieithred? Pwy all ochel y pethau a fynn fod? Wel, dyma fel y mae'r byd yn dyfod. Gwae a gwae i'r undyn a roddo ei goel mewn ffortun; yr owran fe welir y drwg a'r da a gyrchir. |
Troelus |
Chwychwi gariadau, sy'n aros ar dop yr olwyn beraidd, duw a drefno i chwi eich cariadu'n dduraidd, fel y gallo bod eich bywyd mewn hir ddifyrrwch; Ar fy medd pen y deloch, amdanafi meddyliwch, a doedwch: 'yn hwn fedd mae'n cydymaith ni'n gorwedd; i garu bu ei ddigwyddiad, er nas rhyglyddodd cariad.' |
Pandar |
Dywed im, Troelus, paham rwyt cyn ynfyted ag ymroi dy hunan i drymder a chaethiwed? Ti a gefaist dy ewyllys arni yn gwbwl; fe a ddylai hyn esmwythau dy feddwl. Hefyd, hyn a wyddost yn dda ddigon, fod o fewn y dref ymaf arglwyddesau gwychion, a chyn laned mewn pryd a glendid ac y gallaf merch gyrheuddud. Mae rhai o'r rhain cyn llawened am gael odd yma ei gwared, os colli hon yn angall, di a ynilli un arall. |
Troelus |
Och i'r henddyn anheilwng cyn ei amser wedi ei eni; och i'r hen Galcas, pa beth a ddarfod i ti? Yr owran yn Roegwr, Torean eriod y'th gwelwyd. O Calchas, mewn amser drwg i mi y'th aned. Gwae fi na chawn afael arnat, Calchas, mewn cornel; mi a wnawn i ti na chyrchid ym mysg Groegwyr mo Cresyd. |
Pandar |
Ni ad Duw bod dyn bob amser yn llawenychu mewn un peth ac mewn dim ond hynny. Un a fedr ganu, arall dawnsio a chwarae, mae hon yn lan, mae'r llall yn dda ei chyneddfe. Troelus, na feddwl fod mewn un dyn y cwbwl; pob un a fyddo a rhinwedd a ddyle gael anrhydedd. Beth a ddywed Zansis, ddysgedig ei ymddiddan? Fod cariad newydd yn gwthio'r hen allan. Achos newydd a fynn gyfraith newydd i'w farnu; y tân yma mewn amser mae'n arferol o ddiffoddi. Gan nad yw ond digwyddiad o lawenydd ddyfodiad, rhyw achosion a'i dwg. Allan o gof, allan o olwg. |
Troelus |
Cynt y caiff marwolaeth allan o'm calon wthio y fywoliaeth a fu cyd mewn trymder yn trigo nag y caiff Cresyd â'm henaid byth ymadael. Gyda Proserpina y byddwn i mewn gafael, achwyn y byddaf yno trwy ochain mawr ac wylo, y modd y darfu i minne glymu fy hunan yn yr unlle. |