Golygfa 10 Yn torri ar draws yr olygfa flaenorol... |
|
Dafydd |
Ifan-John! |
Mae'r pedwar milwr yn diflannu. |
|
Ifan-John |
Dafydd. |
Dafydd |
Dyw hi ddim yn dod. Ddim yn gallu dod. Ma' rhyw chap uchel o'r fyddin yn y Plas heno. Swper a... |
Ifan-John |
Boi recriwtio? |
Dafydd |
O, ie-ie. Dad yn ei nabod e'n dda. Pryse wedi anghofio gweud, mae'n debyg. Wedes i weden i wrthot ti. |
Ifan-John |
O'dd hi ddim yn hapus, debyg. |
Dafydd |
Na. Ond wedyn... |
Ifan-John |
Ie. Wi'n gwbod. |
Ysbaid. |
|
Dafydd |
Ryw neges i fynd 'nôl? |
Ifan-John |
Na. Dim. Ti'n mynd 'nôl 'wan? |
Dafydd |
Na. Nes mlaen. Yn hwyr. Â'i nôl i hebrwng Dad gatre. |
Ysbaid. |
|
Dafydd |
Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan? |
Ifan-John |
Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam. |
Dafydd |
O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella? |
Ifan-John |
Gwella? |
Dafydd |
Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi? |
Ifan-John |
Nagoedd-hi? |
Dafydd |
O – wel, falle mai galw ar ryw neges ambiti'r capel wna'th Dad te. Sori. Anghywir, fel arfer. |
Ifan-John |
Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny. |
Amnaid yn unig gan Dafydd. |
|
Ifan-John |
Ymddiheuro drwy'r amser. Am ddim rheswm. Dim fel arfer. |
Dafydd |
Ie, wel. Falle byddi di ddim yn gweud 'ny pan glywi di beth s'gen i i weud nesa'. Ti yw'r cynta' i w'bod, ti'n gw'bod. |
Ifan-John |
Gw'bod beth, Dafydd? |
Dafydd |
Dwi'n mynd i fynd. |
Ifan-John |
Mynd? |
Dafydd |
Ti'n gw'bod ble. |
Ifan-John |
Dafydd! Ti! |
Dafydd |
Ie. Fi. Mister Gwerth-dim-byd-i-neb. |
Ifan-John |
Mister Gwerth-dim-byd-i... Wyt ti'n sgolor, 'chan. Yn y coleg. Mynd yn athro. Prifathro, siŵr o fod. 'Sdim ise i ti fynd. 'Sneb yn disgwyl i ti fynd. Ti ddim y teip i fynd. |
Dafydd |
Nagw. Wi'n gw'bod. |
Ifan-John |
Wel pam gythrel!... |
Dafydd |
O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac. |
Ifan-John |
Wi ddim yn grac. Wi'n... |
Dafydd |
Wyt, Ifan-John. Wyt ti'n grac. |
Ifan-John |
Ie. O-reit. Falle mod i. Ond... Beth ma' hwn ambiti? Achos dy dad, ife? Fe sy'n pwyso? O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso. |
Dafydd |
Dyw e ddim. Ddim arna'i. Dyw e ddim. |
Ifan-John |
Wel mae'n pwyso ar bawb arall. |
Dafydd |
Odi. Yn hollol. Pwyso ar bawb arall. Hollol. |
Ysbaid. |
|
Ifan-John |
O. Mi wela' i. |
Ysbaid. |
|
Ifan-John |
Wyt ti wedi gweud wrtho 'to? |
Dafydd |
Dad? |
Ifan-John |
Ie. |
Dafydd |
Na. Naddo. |
Ifan-John |
Bydd hynny'n werth ei weld. Gweld ei ymateb. |
Ysbaid. |
|
Ifan-John |
Beth am dy fam? |
Dafydd |
Dwi heb weud wrth neb. Dim ond ti. |
Ifan-John |
Gwd. Paid. Weda'i ddim gair. Bydd neb ddim callach. |
Dafydd |
Mi fydda' i. |
Ifan-John |
(Yn mynd i ymresymu ag e.) Dafydd, Dafydd... |
Ar ei draws... |
|
Dafydd |
Taw pia hi, Ifan-John. Ma'r penderfyniad wedi'i wneud. Dwi wedi penderfynu. |
Ifan-John yn syllu'n ofalus arno. Wedi'r archwiliad... |
|
Ifan-John |
Wyt. Mi wyt ti, ond-wyt-ti. |
Ysbaid. |
|
Ifan-John |
Pryd te? Pryd wyt ti'n mynd? |
Dafydd |
Yr... yr un pryd â thi? |
Amnaid yn unig o ddealltwriaeth gan Ifan-John. |
|
Dafydd |
Pryd wyt ti'n mynd? Wyt ti wedi gweud 'tho hi 'to? |
Ifan-John |
Ddim 'to. |
Dafydd |
O. Ow'n i'n meddwl bo' ti'n meddwl gweud 'tho hi wythnos ddiwetha'. |
Ifan-John |
Ie. Ow'n i wedi meddwl. |
Dafydd |
O. Ond wnes di ddim. |
Ifan-John |
Naddo. Wnes i ddim. |
Dafydd |
Ond...wel... wyt ti'n dal... |
Ar ei draws. |
|
Ifan-John |
Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd. Wi wedi gweud 'ny ers y cychwyn cynta'. Cyn i John Cwm Bach a Meical Fallon a'r bois 'na i gyd fwrw gered. 'Mhell cyn 'ny. |
Dafydd |
Sori, Ifan-John. |
Ifan-John |
Mowredd y byd! Co ti 'to. Ymddiheuro. |
Dafydd |
Odw. Am dy... |
Ar ei draws... |
|
Ifan-John |
Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud. Amhosib. Bob tro dwi'n eistedd wrth y ford swper 'na. Bob tro. Meddwl: dwi'n mynd i weud heno. Dwi'n mynd i. A wedyn mae'n gweud rhywbeth. Rhyw stori ambiti hi'n ferch ifanc. Neu ryw hanner stori mae hi wedi clywed am ffarm fydd yn dod yn rhydd a bod Pryse yn whilo am fachgen ifanc, rhywun â syniadau yn ei ben – fydd yn gallu 'neud rhywbeth o'r lle. Rhywun 'nunion fel fi, wrth gwrs. Yn union fel fi! Mam fach! |
Ysbaid. |
|
Dafydd |
Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John. Ontife. |
Ifan-John |
O ie. Dim ond fi! |
Ysbaid. Ei lygaid yn codi ac yn edrych ar Dafydd. |
|
Ifan-John |
A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl. |
Dim symudiad o ran Dafydd ac amnaid yn unig gan Ifan-John. |