Golygfa 11 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn... |
|
Emyn |
735 (Caneuon Ffydd) Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith y mae seren i'th oleuo: cred yn Nuw a gwna dy waith. Er i'r llwybyr dy ddiffygio, er i'r anial fod yn faith, bydd yn wrol, blin neu beidio, cred yn Nuw a gwna dy waith. Paid ag ofni'r anawsterau, paid ag ofni'r brwydrau chwaith; paid ag ofni'r canlyniadau: cred yn Nuw a gwna dy waith. Cei dy farnu, cei dy garu, cei dy wawdio lawer gwaith; na ofala ddim am hynny: cred yn Nuw a gwna dy waith. [Norman Macleod / cyf. Ben Davies] |
Tra fod yr emyn yn cael ei ganu dechreua'r fam hulio'r ford swper. |