Golygfa 17 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf... |
|
Emyn |
817 (Caneuon Ffydd) [Tôn: 265: Llwynbedw - J. T. Rees] Gwrando di, O Dduw'r cenhedloedd, ar ddeisyfiad teulu'r llawr; codwn lef o fro ein trallod atat ti, ein Harglwydd mawr: doed dy gariad i gymodi gwledydd byd. Tyn i lawr yr uchel furiau sy'n ysgaru plant dy fron; dyro orsedd i'r Eneiniog dros drigolion daear gron: doed dy gariad i gymodi gwledydd byd. Maddau, Arglwydd, ein gelyniaeth a'n camweddau o bob llun; tywys ni i ffordd tangnefedd fel y delo'r teulu'n un; doed dy gariad i gymodi gwledydd byd. [D. E. Williams] |
Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd... Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda ni oll. Amen. Diwedd Act 1. |