| Golygfa 6   Mae'r wraig yn dod i mewn. Mae'n gosod y lamp wrth ei hymyl cyn mynd ati i bolisio gwaith coed y sêt fawr. Gwelwn ei bod yn rhoi o'i nerth i'r gwaith. Ymhen hir a hwyr mae'n syrthio i'w phengliniau er mwyn dechrau ar y gwaith o bolisio'r pwlpud. Gyda hyn, mae drws y capel yn agor – ei mab, Ifan-John, yn chwilio amdani.  | 
        |
| Ifan-John | 
        Mam?  | 
        
| Kitty | 
        Ie?  | 
        
| Ifan-John | 
        (Yn chwilio eto amdani cyn ei gweld.) Fyn'na y'ch chi.  | 
        
| Kitty | 
        Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod? Ma' swper yn barod. Ddô'i mewn 'wan.  | 
        
| Ifan-John | 
        Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag.  | 
        
| Kitty | 
        Beth! Allu di ddim mynd heb fwyd.  | 
        
| Ifan-John | 
        Dwi wedi b'yta.  | 
        
| Kitty | 
        Rhaid i ti f'yta.  | 
        
| Ifan-John | 
        Dwi wedi, Mam.  | 
        
| Kitty | 
        Labro drw'r dydd. Sdim mynd heb fwyd i fod.  | 
        
| Ifan-John | 
        Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta. Iawn?  | 
        
| Kitty | 
        Pryd?  | 
        
| Ifan-John | 
        Gynne. Oedd popeth ar y ford 'fo chi.  | 
        
| Kitty | 
        O. A fe f'ytes di heb aros amdana'i.  | 
        
| Ifan-John | 
        Ma' hast arna'i, Mam. Wedes i wrthoch chi bore 'ma.  | 
        
| Kitty | 
        Ie-ie. I gwrdd â'r lodes 'na.  | 
        
| Ifan-John yn cnoi ei dafod.   | 
        |
| Kitty | 
        Wel, ffwrdd â thi, te. Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti.  | 
        
| Ifan-John | 
        Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na. Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd.  | 
        
| Kitty | 
        Ie. A dim ond heno s'da fi i gael y lle hwn yn lân 'fyd. Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn.  | 
        
| Ifan-John | 
        Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod. Ond...  | 
        
| Kitty | 
        O, cer er mwyn popeth. Ddô'i ben ben y'n hunan. Dwi wedi 'neud digon o'r blaen a mi wna'i ddigon eto, siŵr o fod. Hy! Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na.  | 
        
| Ifan-John | 
        Sdim sôn am briodi, Mam.  | 
        
| Kitty | 
        Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e? Pan fydd raid, bydd raid.  | 
        
| Ifan-John | 
        S'o Mati'r fath hynny o ferch.  | 
        
| Kitty | 
        Nagyw. Wrth gwrs nag yw hi.  | 
        
| Ifan-John | 
        Dyw hi ddim!  | 
        
| Kitty | 
        Na. – A ti?  | 
        
| Ifan-John | 
        Mam? Be' sy'n bod heno nawr?  | 
        
| Kitty | 
        Dim. Dim byd. (Saib fer.) Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn?  | 
        
| Ifan-John | 
        Naddo.  | 
        
| Kitty | 
        Ifan-John!  | 
        
| Ifan-John | 
        Ges i ddim cyfle, Mam. 'Sbyth cyfle.  | 
        
| Kitty | 
        Nagoes. Wrth gwrs does byth gyfle. Mae raid i ti wneud cyfle, 'chan. Beth dwi wedi bod yn gweud a gweud 'thot ti. Wyt ti byth yn mynd i gael dy le dy hunan fel hyn. Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes?  | 
        
| Ifan-John | 
        Dwi'n was mawr, Mam. Ddim gwas bach.  | 
        
| Kitty | 
        Gwas mawr, gwas bach. Beth yw'r gwa'niaeth. Gwas yw gwas a mistir yw mistir.  | 
        
| Ifan-John | 
        Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas.  | 
        
| Kitty | 
        Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag.  | 
        
| Ifan-John | 
        Dim os fedra'i osgoi.  | 
        
| Kitty | 
        Ie. Ow'n i wedi clywed. Bachan mawr – tu ôl 'i gefen!  | 
        
| Ifan-John | 
        Dwi'n mynd.  | 
        
| Kitty | 
        Ie. Cer. Gwylia di nag yw un o'i gynffonwyr yn gweud wrtho, 'na'i gyd.  | 
        
| Ifan-John yn ymadael.   | 
        |
| Kitty | 
        (Yn galw ar ei ôl.) Fydd hi ar ben arnat ti'n cael lle dy hunan wedyn, 'machgen i, on-fydd-hi!  |