Golygfa 9 Daw Ifan-John i bwyso ar flaen y sêt fawr – pe bai'n pwyso ar glwyd, neu fonyn coeden. Ar yr un pryd, mae'r pedwarawd yn gostwng gŵr y plas yn ofalus i'r llawr. Â'r Pedwar i gyfeiriadau gwahanol cyn sefyll a loetran, megis Ifan-John. |
|
Bachgen 1 |
Beth amdanat ti te, Ifan-John? |
Bachgen 2 |
(Newydd ei weld.) Ifan-John! Ie – beth amdani? |
Bachgen 3 a 4 |
Wyt ti'n mynd i ymuno â ni? |
Bachgen 2 |
Pryd wyt ti'n mynd i ymuno â ni? |
Bachgen 1 |
Bechgyn gore'r ardal... |
Bachgen 4 |
Bechgyn gore'r fro... |
Bachgen 3 |
Bro dy fam a dy... |
Amnaid sydyn a chynnil gan un o'r bechgyn. Bachgen 3 yn deall. |
|
Bachgen 3 |
(Yn wawdlyd.) O, ie. Wrth gwrs. Sori. |
Bachgen 2 |
Dros dy frenin... Bachgen 1, 3 a 4 Dros dy wlad! Bachgen 2 Wel? |
Dim ymateb gan Ifan-John. Mae'r pedwar yn dechrau cau yn lled-fygythiol amdano. |
|
Bachgen 2 |
Wedes i 'Wel'! |
Bachgen 3 |
Do. 'Wel' 'wedodd e. |
Â'r Pedwar ar ei war. |
|
Ifan-John |
Wel? |
Y Pedwar yn rhannu gwên fuddugoliaethus wedi tynnu ymateb oddi wrtho. |
|
Bachgen 4 |
Wel, Ifan-John, Tŷ Capel... |
Bachgen 3 |
Ry' ni yn 'i chanol hi... |
Bachgen 1 |
Training! Y Pedwar yn bwrw i rwtîn gorymdeithio, Bob yr un ohonynt â brwsh cans ar ei ysgwydd. |
Bachgen 2 |
Sut i fwrw'r gelyn... |
Bachgen 3 |
...yn gelain. Y Pedwar yn 'Saethu'. |
Y Pedwar |
Ysgubol! |
Bachgen 4 |
Dere, mae'n... |
Bachgen 2 |
Hwyl, mae'n... |
Bachgen 1 |
Sbri. O, Ifan-John bach... |
Y Pedwar |
(Yn ffug-weddïol) Bydd gyda ni! |
Y Pedwar yn torri o fod yn berfformwyr coeglyd i fod yn bedwar ffrind, go iawn. |
|
Bachgen 3 |
Hei – gwed – pryd wyt ti'n dod? |
Bachgen 2 |
Mi wyt ti yn dod, ond-wyt-ti? |
Y perfformio'n dechrau ail-adeiladu... |
|
Bachgen 1 |
Wrth gwrs ei fod e... |
Bachgen 4 |
Wrth gwrs ei fod e... |
Bachgen 3 |
Wrth gwrs ei fod e... |
Bachgen 4 |
Wrth gwrs ei fod e... |
Y Pedwar |
(Yn sgrechian nerth eu pennau.) Wrth gwrs dy fod di! |
Tawelwch. Yn y pen draw... |
|
Bachgen 2 |
Wedes i 'Wel'. |
Bachgen 3 |
Pryd te? |
Bachgen 4 |
Pryd te? |
Bachgen 1 |
Pryd? – Te? |
Yn ei amser ei hun. |
|
Ifan-John |
Cyn bo hir. |
Bachgen 4 |
Cyn bo hir! |
Bachgen 3 |
Dim rŵan? |
Bachgen 2 |
Dim nawr? |
Bachgen 1 |
'Ŵan? |
Y Pedwar |
Yr eiliad hon? |
Yn ei amser ei hun, eto. |
|
Ifan-John |
Cyn bo hir, wedes i. |
Bachgen 1 |
Cyn bo hir! Be' sy'n dy ddala di 'nôl? |
Bachgen 3 |
Mati? |
Bachgen 4 |
Morwyn fach Gogerddan? |
Bachgen 2 |
Hy! Dyw hi ddim mor fach â 'ny, chi'n gw'bod. |
Bachgen 1 |
Neu... |
Bachgen 3 |
Neu... |
Bachgen 4 |
Na. Does bosib. |
Bachgen 1 |
Na. Dim Ifan-John. |
Bachgen 2 |
Does bosib bod Ifan-John yn... Y Pedwar (Yn ffurfio'r gair, ond heb ei yngan.) ...gachgi! |
Ifan-John yn dechrau cerdded bant. |
|
Bachgen 3 |
Iawn. |
Bachgen 2 |
Sori. |
Bachgen 4 |
Y'n ni'n gw'bod bo' ti ddim. |
Bachgen 1 |
Gw'bod yn iawn. |
Ifan-John wedi sefyll â'u hwynebu eto. |
|
Ifan-John |
Falch clywed. |
Ysbaid. |
|
Bachgen 2 |
Gwed te... |
Bachgen 3 |
Beth... |
Bachgen 4 |
Sy'n... |
Ifan-John |
Y'n nala i 'nôl? |
Y Pedwar |
Ie! |