Act II Golygfa 1 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn cyntaf... |
|
Emyn |
164 (Caneuon Ffydd) Un fendith dyro im, ni cheisiaf ddim ond hynny: cael gras i'th garu di tra bwy', cael mwy o ras i'th garu. Ond im dy garu'n iawn caf waith a dawn sancteiddiach, a'th ganlyn wnaf bob dydd yn well ac nid o hirbell mwyach. A phan ddêl dyddiau dwys caf orffwys ar dy ddwyfron, ac yno brofi gwin dy hedd a gwledd dy addewidion. Dy garu, digon yw wrth fyw i'th wasanaethu, ac yn oes oesoedd ger dy fron fy nigon fydd dy garu. [Eifion Wyn] |