Golygfa 8 Cyhoeddir a chyd-gennir y trydydd emyn... |
|
Emyn |
167 (Caneuon ffydd) Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf i fyd sydd well i fyw, gan wenu ar ei stormydd oll: fy Nhad sydd wrth y llyw. Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn, a rhwystrau o bob rhyw y'n dygwyd eisoes ar fy nhaith: fy Nhad sydd wrth y llyw. Er cael fy nhaflu o don i don, nes ofni bron cael byw, dihangol ydwyf hyd yn hyn: fy Nhad sydd wrth y llyw. Ac os oes stormydd mwy yn ôl, ynghadw gan fy Nuw, wynebaf arnynt oll yn hy: fy Nhad sydd wrth y llyw. A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau, fy angor, sicir yw; dof yn ddiogel drwyddynt oll: fy Nhad sydd wrth y llyw. I mewn i'r porthladd tawel, clyd, o sŵn y storm a'i chlyw y caf fynediad llon ryw ddydd: fy Nhad sydd wrth y llyw. [Ieuan Glan Geirionydd] |
Yn ystod ail hanner yr emyn dechreua Kitty ar ei gwaith glanhau, unwaith eto. |