GOLYGFA 9 |
|
Rhagddoedydd |
Bellach mae'n dyfod nesnes y dynged hon y mae Iau o'i ddirgelwch yn ymwared, ac i chwithau, Parcas ddicllon, dair chwiorydd, mae'n gorchymyn i chwi ar hyn wneuthur diwedd. Mae Diomedes yn dyfod ac Antenor i Droea. Mae Cresyd yn mynd ymaith at y Groegwyr a Troelus yn dwyn penyd nes darfod i Lachesys nyddu edau ei fywyd. |
Diomedes |
Yr urddasol arglwyddi ar gwbwl o Droea ac Asia, oddi wrth frenhinoedd Groeg yr wyf i'n dyfod yma, ac yn dwyn i chwi y carcharwr hyn yn gyfnewid am unferch Calchas, fel yr oedd eich addewid. Diolchgar ydynt hwythau am yr heddychol ddyddiau, a'r cytundeb yn sicir o'u rhan hwy a gedwir. |
Priaf |
Diomedes: mae i chwi groeso oddi wrth frenin Agamemnon: sefyll ydd ydym ni yn y cytundeb addawson, derbyn y carcharwr Antenor i'w ryddid a rhoddi i chwi amdano y forwyn yma, Cresyd. Ymsicrhewch Agamemnon nas torrwn ni ar a addawson; brenin Troea nis torrodd ar ddim erioed addawodd. |
Cyfnewid yn digwydd. Mae Troelus yn dywedyd wrtho ei hunan: |
|
Troelus |
Paham nas gwnaf i dlawd a chyfoethog o'r unwaith gael digon i wneuthud cyn mynediad Cresyd ymaith? Paham nas dysgaf Droea i ryfel disymwth? Paham nas laddaf Diomedes cyn ei fygwth? A paham nas dygaf hon ymaith ar ei gwaethaf, a pha aros yr wyf innau cyd, heb helpu fy noluriau? |
Pawb yn ymadael, ond Troelus. Dilynwn Diomedes a Cresyd ar y ffordd i Roeg: |
|
Diomedes |
Siriwch! Paham yr ydych chwi cyn budredd? Eich annwyl dad ar hynt a gewch ei weled, hwn sydd yn cystuddio mewn hiraethus ofalon eich bod yn byw oddi wrtho ym mysg ei elynion. Os tybiwch chwi y galla i'ch meddylie roddi esmwythdra, rwy'n deisyfu arnoch ac yn erfyn, a hyn allan, fy ngorchymyn. Mi a wn, Cresyd, fod yn chwith ac yn ddieithr gennych - nid yw hyn ryfeddod i'r sawl a ŵyr oddi wrthych - gyfnewid cydnabyddiaeth y Groegwyr, sydd i chwi yn ddieithriaid, am y Troeaid, eich cymdogion, a Throea, y man y'ch ganed Na feddyliwch nas cewch weled ym mysg y Groegwyr wŷr cyn laned ag sydd yn Nhroea a'i swydd, a chwaneg o garedigrwydd. |
Troelus |
Ble mae yr owran, fy arglwyddes am anwylyd? Ble mae ei phryd a'i gwedd? Ble mae Cresyd? Ble mae ei deufraych a'i golwg eglur sirian ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus, truan? Wylo yn hawdd a elli yr heilltion ddagrau amdani; nid oes yma ddim i'w weled ond y llawr y nen ar pared. |
Diomedes |
Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis eich brawd diniwed, ac na wrthodych fy ngharedigrwydd pan ddelych ym mysg dieithriaid, er bod eich prudd-der o achosion mawr yn tyfu, nid hwyrach mewn amser y gallwn i eich helpu. Onide hyn a wyddwn, eich trymder nis ychwanegwn, ond trwm a fyddwn innau dros drymder eich meddyliau. Er bod y Troeaid wrth y Groegwyr yn ddicllon, a'r Groegwyr wrth y Troeaid beunydd yn greulon, yr un duw cariad mae'r ddwyblaid yn ei wasanaethu, a'r ddwyblaid mae'n orfod i'r duw yma eu helpu. Er duw, pwy bynnag a'ch digiodd, arnaf i na roddwch anfodd; myfi ni chlywaf arnaf ryglyddu eich dig na'ch gwaethaf. |
Troelus |
Pwy sydd yr owran i'th weled, fy ngwir, gywir arglwyddes? Pwy sy'n eiste yn dy ymyl, a phwy sy'n dy alw'n fesitres? Pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethus? Mae Troelus heb fod yna; pwy sydd it gynghorus? Wrth bwy y gelli ddoedyd ydiw Troelus yn y byd? Mae Pandar yn ochneidio a Throelus truan yn wylo. |
Diomedes |
At y Groegwyr gan ein bod yn owran yn agosed, neu at dent Calchas - bellach all ein gweled - mi adawaf, i gadw fy nghyfrinach angall wedi ei selio yn fy meddwl tan ryw amser arall. Moeswch i mi, Cresyd, eich llaw, eich cred, eich addewid ar gaffael o Diomedes fod yn nesaf ddyn i'ch mynwes. |
Cresyd yn rhoddi ei llaw i Diomedes. |
|
Diomedes |
Mae cymaint o farchogion ym mysg Groegwyr mor rhinweddol, cyn laned, cyn foneddigeidded, ac mor weddus naturiol, a phob un a wnaiff ei orau am ei einioes a'i fywyd ar gael ohonynt ennill eich gwasanaeth chwi, Cresyd. Arnoch chwi y deisyfaf, am y boen a'r drafael yma, yng ngwydd y rhain fy enwi yn wasanaethwr ufudd i chwi. |
Cresyd |
I chwi, Diomedes, yr wyf yn ddiolchgar, yn enwedig am eich poen ac am eich ewyllus da rwy'n rhwymedig, eich gwasanaeth, eich cymdeithas, eich cynghorion, a derbyn i'r gorau eich holl eiriau caredigion. A hyn a ellwch goelio er dim a all ddigwyddo, o flaen un ar a aned ynddoch chwi y bydd f'ymddiried. |
Ar hyn mae yn canfod ei thad, sydd wedi heneiddio ac yn amlwg yn sal. |
|
Cresyd |
Atolwg i chwi, fy nhad, eich bendith a rhoddwch i mi; hiraeth mawr amdanoch hyd yn hyn a ddugum. |
Calchas |
Fy mendith i ti a ffyno, f'anwylyd a'm un llygad; nis cysgaith noswaith ddiofal gan ofal mawr amdanad. A flinaist yn dyfod yma? Mae'r newyddion o Droea nad ydynt hwy ond aros y gwrthwyneb sydd yn agos. |