| Golygfa 12   Ar ddiwedd yr emyn clywir y drws mas yn agor a chau. Mae'r fam 'yn y gegin'.  | 
        |
| Mam | 
        Ifan-John – ti sy' 'na?  | 
        
| Ifan-John | 
        (Wrth dynnu ei got waith ac ati.) Ie, Mam. (Wrth ddod i olwg pawb.) Mam...  | 
        
| Mam | 
        (Ar ei draws.) Bwyd bron yn barod. Y tato 'ma sydd ar ôl.  | 
        
| (Ennyd.)   | 
        |
| Ifan-John | 
        Mam, dewch 'ma am funud.  | 
        
| Mam | 
        Fydda'i ddim yn hir nawr.  | 
        
| Ifan-John | 
        Na. Nawr, Mam – plîs.  | 
        
| Mam | 
        Be' sy'n bod arnat ti, grwt. Ma' popeth biti bod yn barod.  | 
        
| Ifan-John | 
        Na-na-na. Nawr.  | 
        
| Mam | 
        Ifan-John!  | 
        
| Ifan-John | 
        (Yn gweiddi - ar ei thraws.) Er mwyn popeth! Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!  | 
        
| Y fam yn dod i'r amlwg.   | 
        |
| Ifan-John | 
        (Yn dawelach.) Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!  | 
        
| Ymhen ennyd.   Yn dawel, yn y cefndir, cenir yr hwiangerdd...  | 
        |
| Llais | 
        Si hei lwli 'mabi, Mae'r llong yn mynd i ffwrdd. Si hei lwli 'mabi, Mae'r capten ar y bwrdd. Si hei lwli lwli lws, Cysga, cysga 'mabi tlws; Si hei lwli 'mabi, Mae'r llong yn mynd i ffwrdd.  | 
        
| Mae'r golau'n araf wanhau nes ildio'r adeilad i dywyllwch llethol.   |