Golygfa 15 Digwydd chwarae'r olygfa hon mewn dau le ar yr un pryd. Nid oes perthynas uniongyrchol rhwng y naill a'r llall. Yn y naill le, Mae kitty ifanc yn eistedd gan fagu plentyn yn ei chôl. Yn y llall mae Ifan-John yn gosod y pethau olaf yn ei fag teithio... |
|
Ifan-John |
Mae popeth gen' i, Mam... Odw, dwi'n siŵr... Bydd inc yn y baracs... Oedd hi'n gweud yn y papurach ges i. Dangoses i chi... Odw, dwi'n siŵr... Ie, ond beth os torrith y botel – y caead yn dod yn rhydd... Odi ma'r ffownten pen gen i... Yr un ges i 'da Dad-cu... Yr un gore, ie... Gwnaf, Mam... Odw, dwi'n gw'bod... Drychwch, ma' rhaid i fi fynd. Ma' rhaid... |
Wedi'r cam petrus cyntaf, Mae Ifan-John yn troi ac yn brasgamu o'r adeilad. Nid yw'n mentro nag oedi na throi yn ei ôl o gwbl. Rai eiliadau'n ddiweddarach, daw rhywun/rhywrai at Kitty gan fynd a'r plentyn o'i gafael ac o'n golwg. O'r cysgodion daw ail bennill yr hwiangerdd... |
|
Llais |
Si hei lwli 'mabi, Y gwynt o'r dwyrain chwyth; Si fy mabi lwli Mae'r wylan ar ei nyth. Si hei lwli lwli lws, Cysga, cysga 'mabi tlws; Si hei lwli 'mabi, Y gwynt o'r dwyrain chwyth. |