Golygfa 12 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf... |
|
Emyn |
856 (Caneuon Ffydd) Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog, rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith; cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog, a bu tawelwch wedi'r ddrycin faith. Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb? Arwain ni â'th gyngor yn ffordd d'ewyllys fawr, dysg i'r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb; eiddot y deyrnas, Frenin nef a llawr. Maddau, dirion Arglwydd, ddirfawr fai y bobloedd, maddau rhwysg annuwiol ein holl benaethiaid ni, tywys hwynt i'th lwybrau, Arglwydd Iôr y lluoedd: llwybrau hyfrydwch dy gymdeithas di. Maddau, Arglwydd, maddau fyth o'th lân faddeuant tardd grasusau nefol y saint o oes i oes; maddau, Arglwydd, maddau, casgler er d'ogoniant ryfedd gynhaeaf grawnwin pêr y groes. [J. T. Job] |
Yn ystod y canu gwelir ar y sgrîn ddyfyniadau archif Hansard / newyddion... Gwleidyddion Senedd Prydain yn cyfiawnhau mynd i ryfel, 1914 Gwleidyddion senedd prydain yn cyfiawnhau rhyfel Irac, 2003, a chyrchoedd awyr, 2014 Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd... |
|
Llais |
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda ni oll. Amen. |
Y Diwedd |